Ymateb i'r Ymgynghoriad - Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

 

Ymateb Canolfan Cydweithredol Cymru

 

 Ynglŷn â Chanolfan Cydweithredol Cymru

Sefydliad cydweithredol dielw yw Canolfan Cydweithredol Cymru sy'n cefnogi pobl yng Nghymru i wella eu bywydau a'u bywoliaeth. Yr ydym yn gweithio i sicrhau economi decach. Rydym yn helpu i greu a chadw cyfoeth o fewn ein cymunedau drwy dwf cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol a thrwy roi'r sgiliau i bobl gymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain a chryfhau eu cymunedau.

Mae ein prosiectau fel a ganlyn:

 

• Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu cymorth dwys, un-i-un i fusnesau cymdeithasol newydd yn ogystal â'r rhai sydd ag uchelgeisiau i dyfu a chynnig busnes hyfyw.

Cymunedau Digidol Cymru: Mae Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru, er mwyn helpu pobl i gael mwy o hyder i ddefnyddio technoleg ddigidol fel y gallant wella a rheoli eu hiechyd a'u lles.

• Mae ein prosiect Cymunedau'n Creu Cartrefi yn cynnig cymorth a chyngor i sefydliadau newydd a phresennol sydd am ddatblygu cynlluniau tai cydweithredol a arweinir gan y gymuned yng Nghymru.

Mae ein prosiect Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru Gydnerth yn helpu cymunedau i sicrhau buddsoddiad i ddiogelu a chryfhau'r pethau sy'n bwysig iddynt.

 

Rydym hefyd yn darparu nifer o wasanaethau ymgynghori â thâl sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd a'n nodau corfforaethol.

 

Mentrau Cymdeithasol yn y Sector Diwylliant

Dangosodd ein hadroddiad yn 2020 'Mapio'r Sector Mentrau Cymdeithasol' fod dros chwarter y busnesau cymdeithasol sy’n gweithredu yng Nghymru yn y sector Celfyddydau/Adloniant/Hamdden (26%), gan ei wneud y mwyaf o unrhyw sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cymharu â 22% yn yr ymarfer mapio blaenorol yn 2018 – gan dynnu sylw at dwf parhaus y diwydiant. Yn dilyn pandemig COVID-19, bydd y sector hwn wrth wraidd ysgogi'r economi a hyrwyddo lles mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yr ardaloedd lle ceir lefel uchaf o amddifadedd, gyda Chymoedd De Cymru yn arbennig yn ferw gwyllt o weithgarwch busnes cymdeithasol.

 

Am y rhesymau hyn, mae'n hanfodol eu bod yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i'n cymdeithas a'n heconomi, wrth i Gymru geisio ailadeiladu ar ôl Covid-19. Yn ein hadroddiad diweddaraf yn 2020 ar effaith argyfwng Covid-19 ar y sector mentrau cymdeithasol, nodwyd rhai o'r pryderon a oedd gan y busnesau hyn yn y sector hwn:

 

Pryderon

-      COVID-19 a Hyfforddiant

Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y sector, gyda 63% wedi gorfod gohirio masnachu, 69% yn adrodd bod trosiant yn is na'r disgwyl, a 38% yn nodi bod risg i'w cronfeydd wrth gefn.

-      Mynediad at grantiau

Ar wahân i gyfyngiadau sy'n gysylltiedig â Covid, cyllid yw'r pryder mwyaf a nodwyd o hyd yn y sector, yn bennaf am nad oedd busnesau'n gwybod ble i chwilio am gyllid. Mae hyn wedi dod yn arbennig o bwysig o ystyried effaith Brexit a’r ffaith nad oes bellach arian yn dod o’r UE, sydd wedi bod yn ffynhonnell hanfodol o grantiau i'r sector.

 

Enghreifftiau ac Astudiaethau Achos

Mae newidiadau mewn gwahanol gyfyngiadau wedi gorfodi mentrau cymdeithasol yn y sector creadigol a diwylliannol i addasu eu cynigion, oherwydd bod eu cronfeydd ariannol wrth gefn wedi lleihau a'r ansicrwydd ynghylch incwm. Er enghraifft, yn dilyn y cyfyngiadau symud, bu i Cymru Creations Ltd, cwmni cyfryngau menter gymdeithasol o Dredegar, greu a hwyluso Tasglu Cymunedol Tredegar. Ymhen ychydig ddyddiau, daethant o hyd i'r adnoddau a threfnwyd cefnogaeth i bobl oedrannus a bregus yn Nhref Tredegar ac yn arbennig ystâd ddifreintiedig Cefn Golau, gan ddarparu parseli bwyd yr oedd mawr eu hangen i gartrefi, pecynnau byrbrydau i blant ysgol, gwasanaethau siopa, gwasanaeth danfon presgripsiynau a chymorth cyffredinol i’r rhai mewn angen. Mae'r ymateb arloesol hwn yn dyst i'r heriau sy'n wynebu mentrau creadigol mewn ymateb i gau cyfleusterau. Mae'r dyfodol yn parhau i fod yn ansicr i'r busnesau hyn, yn enwedig os yw lleoliadau'n parhau i wynebu cyfyngiadau COVID a chyfyngiadau ariannol hyd yn oed wrth i ni ddod allan o'r pandemig – mae angen cymorth hyblyg i ddarparu dyfodol mwy sefydlog yn y tymor hir

 

Atebion

-      Mwy o ystyriaeth i fynediad hirdymor i bontio'r bwlch o gyllid yr UE a'r cronfeydd wrth gefn sydd wedi lleihau yn ystod cyfnod Covid-19.

-      Cymorth arbenigol parhaus i fentrau cymdeithasol wrth iddynt ddod allan o'r argyfwng hwn.

 

Casgliad

Y mentrau cymdeithasol diwylliannol a chreadigol yw rhai o'r diwydiannau sydd wedi dioddef waethaf yn y pandemig, felly wrth i ni ddod dros yr argyfwng mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae o ran cefnogi cymunedau, teuluoedd ac unigolion sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol neu'n ariannol. Credwn y dylai'r pwyllgor hwn archwilio sut y gellir cefnogi'r sector hwn i sicrhau ei fod yn dod allan o'r pandemig mor gryf â phosibl, gyda'r potensial i gael mwy o ddylanwad nag erioed ar economi a chymunedau Cymru, gan oresgyn y pryderon ariannu a amlygwyd. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru, drwy ddarparu  Busnes Cymdeithasol Cymru, wedi bod yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol ar draws pob sector yn ystod y cyfnod hwn, a chredwn ein bod yn cynnig cipolwg unigryw ar rôl a photensial y sector.

 

 

Y potensial ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned i gefnogi cymunedau Cymraeg

 

Ymateb Canolfan Cydweithredol Cymru, Awst 2021

 

Mae data gan Awdurdod Cyllid Cymru yn dangos bod argyfwng o ran ail gartrefi yng nghymunedau Cymru - roedd 44% o'r holl gartrefi a werthwyd yn etholaeth Gwynedd yn Nwyfor Meirionnydd yn ystod 2020-21 yn ail gartrefi neu'n eiddo prynu-i-osod. Credwn y  gall modelau tai cydweithredol a arweinir gan y gymuned chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod lleoedd fel y rhain yn parhau i fod yn gymunedau byw, lle gall y Gymraeg barhau i ffynnu. Mae'r duedd o godi crocbris am dai a lefelau uchel o gartrefi gwag yn effeithio'n  sylweddol ar gymunedau lleol Cymru, ac mae'n rhoi'r Gymraeg mewn perygl sylweddol.

 

Mae prosiect Cymunedau'n Creu Cartrefi Canolfan Cydweithredol Cymru,  a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Nationwide,  yn sicrhau mynediad at y wybodaeth, y cymorth, y cyngor a'r arbenigedd technegol ar gyfer grwpiau a sefydliadau ledled Cymru. Mae'n gweithio i greu mudiad tai ffyniannus a arweinir gan y Gymuned, gan ddod â phobl at ei gilydd i benderfynu pa fath o gartrefi a chymunedau y maent am fyw ynddynt. Ers ei sefydlu mae wedi cael effaith sylweddol, gan weithio gyda dros 50 o grwpiau a threfnwyr, gan ddatblygu'r hyn sydd ei angen i ddatblygu cynlluniau tai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru.

 

 

Prif Bryderon

-      Cynnydd mewn perchnogaeth ail gartrefi yng nghefn gwlad Cymru ac anhawster i bobl leol fynd ar yr ysgol eiddo.

-      Goblygiadau i barhad y Gymraeg fel iaith gymunedol.

 

 

Astudiaeth Achos

 

Mae modelau a arweinir gan y gymuned yn cefnogi anghenion tai cymuned leol, gan sicrhau bod digon o dai fforddiadwy ar gael, sydd yn ei dro yn diogelu dyfodol y Gymraeg. Er enghraifft, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gymunedol Aberdyfi  ym mis Tachwedd 2020 fel ymateb uniongyrchol i'r lefelau cynyddol o berchnogaeth ail gartrefi yn y pentref a'r cynnydd ym mhrisiau tai ar ddiwedd cyfnod y cyfyngiadau symud cyntaf. Gweithiodd y grŵp gyda Chymunedau'n Creu Cartrefi i greu prosiect tai newydd dan arweiniad y gymuned i gartrefu teuluoedd lleol a oedd yn cael eu prisio allan o'r farchnad. Mae caffael tir bob amser wedi bod yn rhwystr, ond yn y cyfamser, maent wedi nodi safle defnydd cymysg presennol yn y pentref ar gyfer perchnogaeth gymunedol. Byddai'r safle hwn yn darparu eu heiddo cyntaf am rent fforddiadwy ac yn rhoi incwm a chyfleoedd cyflogaeth gweithredol i'r grŵp.

 

Byddem yn annog y pwyllgor i archwilio'r hyn y gellir ei wneud i ehangu'r model hwn o dai yng Nghymru ymhellach. Drwy adroddiadau rydym wedi'u cyhoeddi ac ymchwil rydym wedi'u cynnal, mae gennym sylfaen dystiolaeth sylweddol ar gyfer manteision y model hwn. Byddem yn annog y pwyllgor i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o archwilio beth yw'r camau nesaf ar gyfer y model hwn fel rhan o'r ymdrech i ddiogelu'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn Y Fro Gymraeg.

 

Atebion  

-      Cymorth arbenigol i grwpiau tai a arweinir gan y gymuned ar bob cam o'r broses ddatblygu.

-      Mwy o ymwybyddiaeth o fanteision modelau tai cydweithredol a arweinir gan y gymuned, a chymorth cyson gan awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

-      Cyflwyno polisi hawl i brynu cymunedol gan Lywodraeth Cymru

-      Sefydlu cronfa fenthyciadau gylchol gan ddefnyddio cyllid Cyfalaf Trafodion Ariannol.

 

Casgliad

Mae'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig yn amlweddog, ond gall y model tai a arweinir gan y gymuned gynnig cyfle i bobl leol yng nghefn gwlad ac ardaloedd arfordirol Cymru fyw yn eu trefi genedigol.  Rydym am i'r pwyllgor archwilio'r gefnogaeth sydd ei hangen ar sefydliadau newydd a phresennol sydd am ddatblygu cynlluniau tai cydweithredol a arweinir gan y gymuned yng Nghymru. Boed hynny'n ceisio sefydlu sut y gallwn  annog awdurdodau lleol i symud at bolisi tir sy'n canolbwyntio mwy ar y gymuned a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r sector tair a arweinir gan y gymuned, neu sut y gallwn ymgorffori diwylliant o grwpiau cymunedol wedi’u hunan-rymuso sy'n mynd i'r afael â'u materion tai eu hunain i oresgyn y rhwystrau presennol o ran tir a chyllid. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru a gwaith y tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi yn golygu bod gennym brofiad unigryw o weithio gyda'r sector hwn, a hoffem gynnig ein cefnogaeth bellach i'r pwyllgor hwn wrth archwilio'r mater hollbwysig hwn.